Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 10(6) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL Cymru DRAFFT
2017 Rhif (Cy. )
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae adran 10(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau gyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru.
Mae adran 10(2) o’r Ddeddf yn nodi’r gofynion ar gyfer cynnwys y datganiad blynyddol.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 10(2)(a)(vii), (viii) a (ix), (3) a (4) o’r Ddeddf, sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi’r wybodaeth am hyfforddiant a chynllunio’r gweithlu a gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys yn y datganiad blynyddol, i ragnodi ffurf y datganiad blynyddol ac i ragnodi’r terfyn amser y mae rhaid cyflwyno’r datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru ynddo.
Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i’r datganiad blynyddol gynnwys gwybodaeth am y trefniadau ar gyfer nodi, cynllunio a diwallu anghenion hyfforddiant staff.
Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i’r datganiad blynyddol gynnwys gwybodaeth am y trefniadau ar gyfer recriwtio a chadw staff.
Mae rheoliadau 5 a 6 a’r Atodlen yn ymdrin â gwybodaeth arall am y gwasanaeth a ddarperir ym mhob lleoliad y mae rhaid ei chynnwys yn y datganiad blynyddol, gan gynnwys gwybodaeth am staffio ac am y gwasanaeth a ddarperir a’r wybodaeth benodol sy’n ofynnol pan fo’r gwasanaeth yn cynnwys y ddarpariaeth o lety.
Mae rheoliadau 7 ac 8 yn ei gwneud yn ofynnol i’r datganiad blynyddol gynnwys datganiad o wirionedd gan y darparwr gwasanaeth a’r unigolyn cyfrifol. Bydd hwn yn darparu tystiolaeth o’r person sy’n gyfrifol am wneud datganiad yn y datganiad blynyddol os bydd erlyniad am drosedd o dan adran 47 o’r Ddeddf (datganiadau anwir).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 10(6) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL Cymru DRAFFT
2017 Rhif (Cy. )
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017
Gwnaed ***
Yn dod i rym 2 Ebrill 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 10(2)(a)(vii), (viii) a (ix), (3) a (4) ac adran 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016([1]).
Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 10(6) o’r Ddeddf honno ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau
Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Ebrill 2018 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “datganiad blynyddol” (“annual return”) yw’r datganiad blynyddol y mae rhaid i ddarparwr gwasanaeth ei gyflwyno i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 10(1) o’r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Gwybodaeth am hyfforddiant
3. Rhaid i ddatganiad blynyddol gynnwys disgrifiad o’r trefniadau sydd ar waith ar gyfer nodi, cynllunio a diwallu anghenion hyfforddiant staff a gyflogir gan y darparwr gwasanaeth mewn perthynas â phob un o’r gwasanaethau rheoleiddiedig y mae’r darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i’w darparu.
Gwybodaeth am gynllunio’r gweithlu
4. Rhaid i ddatganiad blynyddol gynnwys disgrifiad o’r trefniadau sydd ar waith ar gyfer recriwtio a chadw staff a gyflogir gan y darparwr gwasanaeth mewn perthynas â’r gwasanaethau rheoleiddiedig y mae’r darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i’w darparu.
Gwybodaeth arall
5. Rhaid i ddatganiad blynyddol a gyflwynir gan ddarparwr gwasanaeth sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd gynnwys yr wybodaeth ychwanegol a bennir yn yr Atodlen mewn perthynas â phob un o’r mannau y darperir y gwasanaeth ynddo.
6. Rhaid i ddatganiad blynyddol a gyflwynir gan ddarparwr gwasanaeth sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cymorth cartref gynnwys yr wybodaeth ychwanegol a bennir yn yr Atodlen mewn perthynas â phob un o’r mannau y darperir y gwasanaeth mewn perthynas ag ef.
Datganiad o wirionedd
7. Rhaid i ddatganiad blynyddol gynnwys datganiad wedi ei lofnodi gan y darparwr gwasanaeth sy’n cadarnhau ei fod wedi darllen yr wybodaeth ac yn cytuno â’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y datganiad blynyddol sy’n ymwneud â’r gwasanaethau rheoleiddiedig y mae’r darparwr wedi ei gofrestru i’w darparu.
8. Rhaid i ddatganiad blynyddol gynnwys datganiad wedi ei lofnodi gan bob unigolyn cyfrifol sy’n cadarnhau ei fod wedi darllen yr wybodaeth ac yn cytuno â’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y datganiad blynyddol sy’n ymwneud â’r man y mae wedi ei ddynodi ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef gan y darparwr gwasanaeth fel yr unigolyn cyfrifol.
Ffurf y datganiad blynyddol
9. Rhaid i ddatganiad blynyddol fod ar ffurf datganiad ar-lein a gyrchir ar dudalennau’r wefan a gynhelir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi eu sefydlu at ddiben hysbysu darparwyr gwasanaethau am y gofynion ar gyfer llunio a chyflwyno datganiadau blynyddol.
Terfyn amser ar gyfer cyflwyno datganiadau blynyddol
10. Rhaid i ddatganiad blynyddol gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn 56 o ddiwrnodau i ddiwedd y flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
Dyddiad
YR
ATODLEN
Rheoliadau 5 a 6
Gwybodaeth i gael ei chynnwys yn y datganiad blynyddol
Gwybodaeth gyffredinol
1. Manylion cyswllt.
Gwybodaeth am yr unigolyn cyfrifol
2. Enw’r unigolyn cyfrifol.
Gwybodaeth am staffio
3. Enw’r rheolwr.
4. Cyfanswm nifer y swyddi cyfwerth ag amser llawn (gan gynnwys swyddi sydd wedi eu llenwi a swyddi gwag).
5. Nifer y swyddi sydd wedi eu llenwi a’r swyddi gwag ym mhob un o’r categorïau a ganlyn—
(a) rheolwr;
(b) dirprwy Reolwr;
(c) staff goruchwylio eraill;
(d) staff gofal nyrsio;
(e) nyrsys cofrestredig;
(f) uwch staff gofal cymdeithasol sy’n darparu gofal uniongyrchol;
(g) staff gofal cymdeithasol eraill sy’n darparu gofal uniongyrchol;
(h) staff domestig;
(i) staff arlwyo;
(j) mathau eraill o staff nad ydynt wedi eu rhestru uchod.
6. Os yw nifer y staff a gyflogir yn cynnwys staff o fath nad yw wedi ei restru ym mharagraff 5(a) i (i), manylion y math neu’r mathau o’r staff hynny.
7. Cyfradd trosiant staff.
8. Y mathau o drefniadau contractiol y mae staff wedi eu cyflogi arnynt a nifer y staff a gyflogir ar bob math o drefniant contractiol ym mhob un o’r categorïau a restrir ym mharagraff 5.
9. Cymwysterau’r staff a gyflogir ym mhob un o’r categorïau a restrir ym mharagraff 5.
10. Manylion unrhyw hyfforddiant perthnasol y mae staff a gyflogir ym mhob un o’r categorïau a restrir ym mharagraff 5 wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod y maent wedi eu cyflogi ynddo gan y darparwr gwasanaeth.
Gwybodaeth am y gwasanaeth a ddarperir
11. Manylion y raddfa ffioedd sy’n daladwy gan ddefnyddwyr y gwasanaeth yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
12. Manylion yr ieithoedd a ddefnyddir i ddarparu’r gwasanaeth.
13. Manylion unrhyw ddulliau cyfathrebu nad ydynt yn rhai llafar a ddefnyddir.
14. Cyfanswm nifer y cwynion ffurfiol a wnaed yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf a chyfran y cwynion hynny na chawsant eu cadarnhau, a gafodd eu cadarnhau’n rhannol ac a gafodd eu cadarnhau.
15. Manylion y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori â defnyddwyr y gwasanaeth ynghylch gweithrediad y gwasanaeth rheoleiddiedig.
Gwybodaeth ychwanegol pan fo’r gwasanaeth yn cynnwys y ddarpariaeth o lety
16. Patrymau sifft nodweddiadol y staff a gyflogir, gan ddangos nifer y staff ym mhob un o’r categorïau a restrir ym mharagraff 5(d), (e), (f) ac (g) sydd ar ddyletswydd yn ystod pob sifft.
17. Nifer yr ystafelloedd gwely sengl ac ystafelloedd gwely a rennir.
18. Nifer yr ystafelloedd gwely a chanddynt gyfleusterau en suite.
19. Nifer y lolfeydd/ystafelloedd bwyta cymunedol.
20. Nifer yr ystafelloedd ymolchi a chanddynt gyfleusterau cymorth ymolchi.
21. Manylion unrhyw le yn yr awyr agored y mae gan y preswylwyr fynediad iddo.
22. Manylion unrhyw gyfleusterau eraill y mae gan y preswylwyr fynediad atynt.